
CYFRI’R DYDDIAU TAN YR #ETHOLIADAU!
Dros gyfnod o chwe wythnos cyn yr Etholiadau Lleol ar 5 Mai, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth gryno gyda chi a’ch disgyblion, wedi’i theilwra’n arbennig ar gyfer disgyblion chweched dosbarth (16-18 oed) a fydd yn cofrestru i bleidleisio ac yn pleidleisio am y tro cyntaf. Nod y gyfres yw helpu i rymuso athrawon i addysgu ac i ysbrydoli eich disgyblion i fod â’r hyder a’r wybodaeth i gymryd rhan mewn etholiadau lleol, ac yn bwysicaf oll, deall grym eu llais, a pha mor bwysig yw hi eu bod yn ei ddefnyddio.  Dros y sesiynau, byddwn ni’n trafod pwnc a thema wahanol bob wythnos sydd i’w gweld isod. Bob wythnos, byddwn yn rhyddhau adnoddau byrion a hwylus i chi eu rhannu gyda’ch disgyblion, wedi’u cynllunio ar gyfer amser dosbarth ac yn rhoi cyflwyniad diddorol i chi i broses yr etholiadau lleol. I gael crynodeb o’r gefnogaeth allweddol bob wythnos, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr isod i gael adnoddau a chymorth ar bob thema yn eich mewnflwch bob bore Llun.
