
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiwn y Senedd a'r Comisiwn Etholiadol wedi creu adnoddau newydd i helpu pobl ifanc i ddysgu am y Senedd a sut i bleidleisio, fel eu bod yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan yn etholiad Senedd 2026.
Cynllun gwers yw hwn sy'n archwilio'n fanwl pam mae pleidleisio'n bwysig.
Cyfres o gynllun gwersi a dec sleidiau sy'n archwilio'n fanwl pam mae pleidleisio'n bwysig. Wedi'i gefnogi gan rai gweithgareddau byr i gychwyn y sgwrs am Etholiad Senedd 2026 a sut y gall pobl ifanc gymryd rhan.
Gellir addysgu'r wers yn unigol neu fel y gyntaf o dair, ac yna'r wers Senedd - Eich Llais, Eich Pleidlais a'r wers Sut i Bleidleisio, yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael a pha bynciau sydd fwyaf addas i'ch dysgwyr.
Mae'r adnodd hwn gan ddarparwr allanol. Ydych chi'n caniatáu i ni rannu eich manylion cyswllt gyda nhw? (Dewisol)