
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Comisiwn y Senedd a'r Comisiwn Etholiadol wedi creu adnoddau newydd i helpu pobl ifanc i ddysgu am y Senedd a sut i bleidleisio, fel eu bod yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan yn etholiad Senedd 2026.
Dyma rai gweithgareddau byr i ddechrau'r sgwrs am yr etholiad a sut i bleidleisio.
Cynllun gwers sy'n archwilio sut i bleidleisio'n fanwl. Wedi'i gefnogi gan rai gweithgareddau byr i gychwyn y sgwrs am Etholiad Senedd 2026 a sut i bleidleisio.
Gellir addysgu'r wers yn unigol neu fel y drydedd o dair, wedi'i chynnu gan y wers Hawliau Plant ac Etholiad y Senedd a'r wers Y Senedd - Eich Llais, Eich Pleidlais, yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael a pha bynciau sydd fwyaf addas i'ch dysgwyr.
Mae'r adnodd hwn gan ddarparwr allanol. Ydych chi'n caniatáu i ni rannu eich manylion cyswllt gyda nhw? (Dewisol)