.png)
Bydd y sesiynau hyn, a gynlluniwyd ar gyfer gwasanaethau, yn cyfrannu at ddealltwriaeth myfyrwyr o ddemocratiaeth drwy archwilio'r prosesau sy'n gysylltiedig ag etholiad cyffredinol Seneddol y DU.
Mae'r gweithgareddau'n archwilio wyth cam sy'n gysylltiedig ag etholiad cyffredinol, gan gyflwyno myfyrwyr i 'daith' eu pleidlais.
Mae wyth gweithgaredd i gyd a gellir eu defnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n addas i'ch amserlen. Mae croeso i chi ddewis un gweithgaredd neu ddilyn y dilyniant cyfan.
Mae'r gweithgareddau'n canolbwyntio ar y prosesau sy'n gysylltiedig pan fydd rhywun yn pleidleisio yn bersonol.