
Mae'r cynllun gwaith chwe wythnos hwn yn archwilio gwahanol elfennau o ddemocratiaeth a gwleidyddiaeth, gan gynnwys sut i gofrestru i bleidleisio a beth i'w ddisgwyl ar ddiwrnod y pleidleisio.
Bydd cyfle gan bobl ifanc i ddylunio a gweithredu eu hymgyrch eu hunain. Gallwch ddefnyddio'r rhaglen chwe wythnos lawn, neu ddewis y gwersi sy'n addas i'ch grŵp.
Gellir cyflwyno'r cynlluniau gwersi hefyd yn ystod diwrnod oddi ar yr amserlen neu ddiwrnod galw heibio.