Cyflwyniad i Ddemocratiaeth

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth

Mae'r cynllun gwaith hwn yn cynnwys pedwar pecyn o adnoddau sydd wedi'u cynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth.

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 3 - Llywodraeth Leol a Chanolog

Y drydedd o set bedair rhan sydd wedi'i chynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob pecyn yn annibynnol ar ei gilydd, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach. 

​

Mae myfyrwyr yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng llywodraeth leol a llywodraeth ganolog. Drwy gymryd rhan bydd myfyrwyr yn gallu ateb cwestiynau allweddol fel:

​

Beth yw swyddogaethau a rolau allweddol llywodraeth leol a chanolog?

Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng llywodraeth leol a llywodraeth ganolog?

Sut mae llywodraethau lleol yn gwneud ac yn gwario arian?

Sut gall pobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau lleol?

Canllawiau CYFLWYNO
Testun y Tag
Llywodraeth Leol a Chanolog

Cyflwyniad i Ddemocratiaeth Rhan 4 - Beth yw Plaid Wleidyddol?

Y bedwaredd o set bedair rhan sydd wedi'i chynllunio i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniad o ddemocratiaeth. Gellir cyflwyno pob pecyn yn annibynnol ar ei gilydd, neu eu cyfuno i ffurfio cynllun gwaith ehangach. Mae'r pecyn yn cynnwys pedwar gweithgaredd ar wahân lle bydd myfyrwyr yn archwilio:

Beth yw plaid wleidyddol.
Pwrpas y maniffestos.
RĂ´l a chyfrifoldebau AS.
Pa flaenoriaethau fyddai ganddyn nhw pe bydden nhw'n ffurfio plaid wleidyddol.

Canllawiau CYFLWYNO
Testun y Tag
Beth yw Plaid Wleidyddol?