Mae'r Politics Project ac Purpose Union yn ymuno i gynnal rhaglen hyfforddi i gefnogi Colegau Addysg Bellach i sefydlu "cofrestru awtomatig" ac integreiddio cofrestru pleidleiswyr i'r prosesau cofrestru myfyrwyr.
Ynglŷn â chofrestru awtomatig
Cofrestru awtomatig mewn proses a ddefnyddir i gefnogi myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio fel rhan o'u prosesau cofrestru. Ar ôl ei integreiddio, gellir defnyddio'r broses hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan symleiddio eich gweithgareddau cofrestru pleidleiswyr a lleihau'r angen am ymgyrchoedd cofrestru pleidleiswyr.
**Ynglŷn â'r rhaglen**
Bydd y cwrs yn cynnwys canllawiau a chymorth wedi'i deilwra ar y broses o gofrestru awtomatig, gan gynnwys datblygu cytundebau rhannu data ac integreiddio'r prosesau i'ch coleg.
Bydd y rhaglen yn cynnwys tair sesiwn hyfforddi i ganiatáu i garfan o golegau addysg bellach sefydlu cofrestru awtomatig mewn pryd ar gyfer prosesau cofrestru haf y flwyddyn nesaf.
- Cyflwyniad i gofrestru awtomatig - 12fed neu 13eg Tachwedd 2024 (mae'r sesiwn hon yn cael ei chyflwyno ddwywaith)
- Datrys problemau gyda'ch cytundeb rhannu data - 14 Ionawr 2025
- Gweithredu cofrestru awtomatig yn eich coleg - 12 Chwefror 2025
Yn ogystal â'r hyfforddiant hwn, byddwn hefyd yn gallu eich cefnogi i gysylltu â'ch Swyddogion Cofrestru Etholiadol a darparu templedi a chanllawiau i sefydlu'r broses.
**Gofynion**
Cyn cofrestru ar gyfer y rhaglen hon, gwnewch yn siŵr bod gennych y canlynol:
- Rydych chi'n gymharol hyderus y byddwch chi'n gallu cwblhau'r broses gofrestru awtomatig.
- Mae gennych ganiatâd a chydsyniad eich Pennaeth/Prif Swyddog Gweithredol a'ch Swyddog Diogelu Data i weithredu'r broses hon.
- Gallwch fynychu un o'r sesiynau "cyflwyniad i gofrestru awtomatig" ac yn ddelfrydol y ddwy sesiwn hyfforddi arall.
Cofrestru
I gymryd rhan yn y rhaglen hon dilynwch y ddolen ar frig y dudalen hon a chwblhewch y ffurflen mynegiant o ddiddordeb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhaglen hon, cysylltwch ag Ian Pope drwy ian@thepoliticsproject.org.uk .