Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn cefnogi dysgwyr ledled Cymru i gael sgyrsiau ystyrlon gyda'u cynrychiolwyr etholedig.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn cefnogi dysgwyr i gymryd rhan mewn sesiynau Deialog gyda'r gwleidyddion sy'n eu cynrychioli, gan feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd ar y ddwy ochr a rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen ar bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i ysgolion.
Mae Deialog Ddigidol: Cymru yn helpu athrawon i baratoi dysgwyr ar gyfer y sgyrsiau hynny drwy gyflwyno gweithdai deniadol gydag adnoddau dysgu sy'n grymuso dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a'r byd, gan gefnogi un o bedwar pwrpas craidd Cwricwlwm Cymru yn uniongyrchol. Gallwch ddysgu mwy am Deialog Ddigidol: Cymru yma .
Os hoffech i'ch dysgwyr gymryd rhan, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb. Bydd aelod o dîm y Prosiect Gwleidyddiaeth mewn cysylltiad.