Mae Deialogau Arweinwyr, rhan o raglen Deialog Ddigidol: Cymru, yn cefnogi dysgwyr ledled Cymru i gael sgyrsiau ystyrlon gydag arweinwyr Cymru o bleidiau’r Senedd.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen yn galluogi dysgwyr i ofyn cwestiynau i arweinwyr y pleidiau yn y Senedd, gan roi cyfle i bobl ifanc godi materion sy'n bwysig iddyn nhw wrth ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Mae'r rhaglen yn rhad ac am ddim i ysgolion.
Gallwch ddysgu mwy am Deialog Ddigidol: Cymru yma .
Os hoffech i'ch dysgwyr gymryd rhan, cwblhewch ffurflen mynegiant o ddiddordeb. Bydd aelod o dîm y Prosiect Gwleidyddiaeth mewn cysylltiad.