Sut gall pobl ifanc gymryd rhan mewn democratiaeth y tu hwnt i bleidleisio? Sut olwg sydd ar newyddiaduraeth ddemocrataidd dda? Sut gall pobl ifanc ymgyrchu dros y penderfyniadau maen nhw eu heisiau? Mae Naked Politics yn darparu sesiynau am ddim ar weithredu democrataidd i fyfyrwyr ysgol, gan eu helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau hyn.
Os hoffech iddyn nhw gyflwyno sesiwn i'ch disgyblion, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'u swyddog gweinyddol yn bella.frimpong@nakedpolitics.co.uk .