Ymunwch â ni a chymerwch ran yn Wythnos Croeso i'ch Pleidlais 2024 y Comisiwn Etholiadol , i'n helpu i ddathlu democratiaeth a bod gennym ni i gyd lais.
Rydym am wneud yn siŵr bod gan bobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i deimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn democratiaeth ac etholiadau. Thema Wythnos Croeso i'ch Pleidlais 2024 yw 'Mae Eich Llais yn Bwysig' - rydym yn dathlu sut mae llais pawb yn bwysig, a sut y gall pawb gael effaith ar y materion sy'n bwysig iddynt trwy gymryd rhan mewn democratiaeth. P'un a ydych chi'n dewis bwrw'ch pleidlais, cychwyn deiseb, neu gymryd rhan mewn fforwm ieuenctid, mae yna lawer o ffyrdd i wneud i'ch llais gael ei glywed a dangos bod eich llais yn bwysig.
Cofrestrwch ar gyfer yr wythnos i dderbyn eich posteri a graffeg cyfryngau cymdeithasol y gellir eu lawrlwytho, neu ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol i edrych ar eu holl adnoddau addysg.
Rhannwch yr hyn rydych chi'n ei wneud yn Wythnos Croeso i'ch Pleidlais 2024 gyda #CroesoI'chPleidlais.